Fel y gŵyr pawb erbyn hyn, mae cyfran o boblogaeth Prydain yn adweithiol ac yn eithafol iawn.

Dyma’r rhai sydd fwyaf o blaid Brexit am resymau ideolegol pur, a’r rhai sy’n ystyried Prydain yn well na phob gwlad arall yn y byd.

Nhw yw’r bobl sydd, ar eu gorau, yn drwgdybio tramorwyr; ac ar eu gwaethaf, yn eu casáu.

Yr un bobl, ar y cyfan, oedd – ac yw – cefnogwyr mawr Donald Trump ym Mhrydain.