Mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol wedi croesawu cymal yn y cytundeb arfaethedig rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru sydd yn galw am ddatganoli pwerau dros darlledu a chyfathrebu.

Yn ôl y Cyngor, mae cynnwys cymal o’r fath yn gam bychan ar y daith hir i sicrhau tegwch cyfryngol i Gymru gan gyfrannu yn adeiladol at y daith hirach i wella natur a safon democratiaeth y wlad.