Mae’r cynigion truenus i amddiffyn gweithredoedd Boris Johnson yr wythnos ddiwetha’ yn profi’r pwynt.

“Bod yn deyrngar i ffrind oedd e,” medden nhw. Hyd yn oed os oedd ceisio dadwneud penderfyniad proses ddisgyblu’r Senedd yn gamgymeriad, roedd yr hen greadur annwyl yn gwneud hynny oherwydd ei galon gynnes.

Mae hynny’n profi, wrth reswm, nad ydi’r Prif Weinidog yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng ei rôl breifat a’i rôl gyhoeddus, un o hanfodion y swydd.