Dim ond unwaith yr ydw i wedi rhedeg ar gae pêl-droed yn ystod gêm. Yn 1991 roedd Caerdydd yn chwarae oddi cartref yn erbyn Halifax yn y bedwaredd adran. Pan sgoriodd Chris Pike i Gaerdydd, roeddwn i’n digwydd bod yn sefyll wrth ymyl giât oedd yn llydan agored. Wnes i ddim meddwl o gwbl, roedd hi’n teimlo’n hollol naturiol i redeg i ddathlu efo’r tîm. Ac ar ôl eiliadau, wnes i ddychwelyd i’r teras tu ôl y gôl. Doedd yna ddim llawer o stiwardiaid yn Halifax yn 1991.