A finne ar wylie’r wythnos dd’wetha’ weles i mo’r grasfa ddisgwyliedig gan Seland Newydd.

A bod yn onest, hyd yn oed sen i adre sai’n siŵr a fydden i wedi’i gwylio hi – ma Amazon Prime wedi gorfod mynd yn y cost-cutting exercise diweddar yn tŷ ni ar ôl inni sylweddoli bo’ ni’n talu trwy’n trwynau am sianeli di-rif ar ôl cyfnod y pandemig. A ddim crasfa gan y Crysau Duon fydde’n temtio fi nôl, hyd yn oed â sylwebaeth Gymraeg.