Bu cryn drafod yn ddiweddar ar safon Cymraeg llafar. Rwyf wedi croesi oed yr addewid. Bûm yn byw mewn nifer o ardaloedd ond ni fuasech yn fy nghlywed i, na neb arall, yn defnyddio ymadroddion fel hyn: ‘Mae e’n amazing; Mae e’n really dda; So, fe es i lan i’r dre.’

Yn ble rwy’n clywed hyn amlaf? Fe’u clywir yn fynych ar raglenni S4C ond dw i ddim yn beio’r sianel. Mae yn anorfod fod y teledu yn ei ledaenu fel pla.