Hyfryd gwrando ar sgwrsio Dewi Llwyd gyda’r Arglwydd John Morris fore Sul (ar Radio Cymru 31/10/21); yr hynafgwr mor huawdl ag erioed; stôr o atgofion diddorol am ei ddegawdau ym myd y gyfraith a gwleidyddiaeth. Ond cefais yr argraff bod Dewi yn rhy barchus o’i westai.

Rhai pethau na wnaeth eu crybwyll: golygon trachwantus y Llywodraeth Lafur tuag at Gronfa Trychineb Aberfan; a pharodrwydd aelodau Llafur i gredu’r celwyddau am yr arfau dinistriol yn Irac. Ffolineb sy’n atsain hyd heddiw.