Ers i Brydain daro bargen ar gytundeb masnach mewn egwyddor gyda Seland Newydd, mae ffermwyr wedi bod yn cnoi cil ar gynnwys y ddêl.

A chyda Chymru’n cael crasfa gan y Crysau Duon y penwythnos diwethaf, mae amaethwyr yn argoeli bydd canlyniad y cytundeb yr un mor siomedig.

Mae’n debyg mai’r Kiwis, sydd â ffermydd ar raddfa lawer ehangach na Chymru, fydd yn buddio’n bennaf o’r fargen hon.