Wedi’r holl baratoi, y trafod a’r trefnu mae Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd COP26 ar y gweill yn Glasgow.
A boed ar drên, awyren neu mewn car, mae dros 120 o arweinwyr wedi tyrru i’r Alban gyda’r nod o leihau dibyniaeth y byd o losgi tanwyddau ffosil.
Ac er gwaetha’r eironi o ran teithio, amcan y gynhadledd yw dod â chynrychiolwyr o amgylch un bwrdd i wneud y ddaear yn blaned carbon net-sero.