O heddiw ymlaen, bydd cyfle i bobol ardal Caersws fwrw croes tros pa gerflun yr hoffen nhw ei weld yn cael ei godi yn y Drenewydd i ddathlu 250 mlwyddiant geni Robert Owen, y diwygiwr cymdeithasol.

Dros yr haf, daeth 20 o bobol ifanc rhwng 11 ac 18 oed i Ganolfan Mid Wales Arts i gynllunio cerflun a fyddai’n cyfleu cymeriad a gwaddol Robert Owen.

Fe gawson nhw gymorth criw’r Ganolfan a’i sylfaenydd Cathy Knapp, Sculpture Cymru ac Amgueddfa Robert Owen.