Gyda llygaid y byd ar y cyffro gwleidyddol yng Nglasgow’r wythnos hon mae hefyd digon o bolitcis cyffrous i’w weld ar lawr gwlad.

Mae unig gynghorydd sir y Blaid Werdd yng Nghymru wedi gweld ei chyfle am fan gwyrdd man draw gan ymuno gyda Phlaid Cymru.

Gwraidd penderfyniad Emily Durrant, Cynghorydd ar Gyngor Sir Powys, yw cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol, meddai.