Ei hoff arogl oedd pethau’n llosgi. Byddai’n mwynhau dyfnder y peth, fel petai ganddo nodyn bas oedd yn treiddio’n bellach nag arogleuon eraill, fel petai bron iawn yn dirgrynnu’r mymryn lleiaf yn ei hesgyrn.