Yn ei soned fawr ‘Rhyfeddodau’r Wawr’, mi ddychmygodd R Williams Parry y gallai’r haul beidio â chodi rhyw ddiwrnod a pheidio â dilyn ei daith o orwel i orwel, nes bod dyn a’r ddynoliaeth wedi eu dinistrio’n llwyr.

Ar ôl hynny, gan ddefnyddio’r ddelwedd glasurol y byddai rhai fel Boris Johnson yn ei hadnabod, mi fyddai’r haul yn “ail-harneisio’i feirch” wrth ei gerbyd ac yn ailafael yn ei ymdaith ddyddiol.