Gofynnwch i unrhyw un sy’n byw yn Llundain beth yw noson fwya’ boblogaidd y flwyddyn, a fi’n siwr dim ond UN ateb gewch chi. Nadolig? Plis. Calan Gaeaf? Tyfa lan. Pen-blwydd y Cwîn? Ddim hyd yn oed yn agos! I fi ac i filiynau o werthfawrogwyr cig, y British Kebab Awards sydd ar dop y calendr cymdeithasol bob blwyddyn.