Mae’n rhaid i fi gyfaddef bod rhan o fy enaid yn gwrido pan fo enwau’r “sêr Hollywood” a pherchnogion newydd clwb pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn ymddangos ar y sgrin o ’mlaen i.

Er mai newydd ymweld â Chymru y maen nhw, am y tro cyntaf ers iddyn nhw brynu’r clwb y llynedd, gallech chi dyngu mai nhw yw gwarcheidwaid newydd y genedl gyfan. Mai nhw yw’r Meibion Darogan y mae’r genedl wedi bod yn disgwyl amdanyn nhw gyhyd.