Mi wnes i gyfarfod ffrind ar yr Oval yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn diwethaf. Mae’n byw yn nwyrain Cymru a doeddwn i erioed wedi ei weld o yng Nghaernarfon o’r blaen. Pam, tybiais, fod o’n gwylio Caernarfon yn erbyn y Barri yn lle cymryd ei sêt arferol ar y Cae Ras? “Roeddwn i eisiau osgoi’r syrcas,” esboniodd. “Mae canol Wrecsam yn wyllt, dydw i erioed wedi gweld y dref mor brysur!”