A daeth gêm fwyaf unrhyw flwyddyn i Stadiwm Principality unwaith yn rhagor, yn llai o achlysur nag ydi hi’n fater o drefn y dyddiau hyn: Cymru’n herio’r Crysau Duon. Y tu allan i’r ffenestr ryngwladol, fel sydd hefyd yn digwydd yn aml, achos bod Undeb Rygbi Cymru eisio’u bachau ar bres, yn codi crocbris ar bobl dosbarth gweithiol i wylio camp y maen nhw’n teimlo’u bod yn berchen arni.