Wythnos ddiwethaf bûm yn trafod yr angen i’r Comisiwn Cyfansoddiadol Annibynnol fod yn ddiduedd.

Yn wir, onid gwell fyddai apwyntio cyn-farnwr i gadeirio’r corff? Hawdd, wedyn, fyddai dod o hyd i berson sydd â phrofiad helaeth o wrando’n ddiduedd ar bob math o dystiolaeth – cyn dod i farn.

Ond, hei ho, peth rhyfedd yw ein Llywodraeth – yn frith o ddatganiadau hilariws (megis na ddylech fwyta orenau ‘out of season’. Beth yw ‘season’ orenau yng Nghymru, tybed?)