Mae gen i reol aur mewn bywyd – os daw anifail i’r tŷ yn ddiwahoddiad, mae yna siawns da na fydd yn ei adael yn fyw. Pryfaid ydi prif destun y rheol hon. Gas gen i nhw’n fflio rownd y lle, yn mynd ar eu pennau i mewn i ffenestri fel twpsod, bron yn gofyn imi eu dinistrio. Mae’r sefyllfa hon yn rhoi mwy o bwysau arna i nag y dylai mewn difri. Tra eu bod nhw’n gwrthod mynd allan o ffenestr agored, mae’r ci yn synhwyro sŵn bluebottle ac yn eiddgar ddisgwyl imi ddod â’r flyswatter allan, yn cyfarth yn wallgof yn meddwl bod gêm ar droed. Nid gêm mohoni. Mae’r pry am ddianc neu farw.

Yna mae pryfaid cop – gelynion mawr y pryf. Roedd yna adeg yn fy mywyd nad oeddwn i’n eu meindio, yn eu pigo fyny a mynd â nhw tu allan. Ond wrth imi fynd yn hŷn maen nhw’n troi arna i’n gynyddol. Dw i’n gwybod, dw i’n meddwl, y foment ddaru hyn ddigwydd. Cofiaf flynyddoedd yn ôl, wrth fynd allan o’r tŷ, feddwl fod yna lygoden ynghanol y lôn, ond i sylwi â braw ac arswyd wrth iddo ymlwybro ata i na tharantiwla – dw i ddim yn jocian, blydi tarantiwla – oedd o. “Dw i rhy hungover i’r shit yma” ddywedais i wrth fy hun, a bagio’n ôl i’r tŷ heb fedru delio â’r sefyllfa. Tasa fo wedi mynd dan droed, fyddwn i heb â digio â’m hun.

A dyna chi lygod, y diawliaid. Mae Grangetown yn llawn llygod mawr, ac wn i ddim ai un bach neu fawr oedd dan sylw yma, ond ar ôl deffro a mynd at y worktops mi sylwais fod yna ddarnau bach brown o gwmpas y lle a bod y tomatos wedi cael eu llyncu’n farus. Dw i fawr o foi am ddal llygod, ond mi es i i’r siop yn gyflym iawn a phrynu’r maglau a rhoi darn bach o gaws am bob un i’w denu i’w tynged.

Weithiodd hynny ddim, wrth gwrs. Llygoden domatos oedd hon ac ni fynnai ddim arall, gan beri sawl diwrnod anghyfforddus yn aros i glywed y glep nodweddiadol, na ddaeth.

Ond daeth un arall i darfu ar fy nghartref clyd yn ddiweddar. Bob bora fydda i’n dod lawr i’r lownj, yn fodlon fy myd, ond i sylwi bod yna wlithen neu falwan wedi ymlwybro’i ffordd o gwmpas cornel y stafell, yn gadael ôl ei llysnafedd budr ar y carped. Dw i ddim yn awyddus iawn i halltu’r llawr – dyn gwirion wnâi hynny – na gosod powlen o gwrw allan i’w denu rhag ofn i’r ci ei yfed a rhoi cweir i mi.

Dyn da-i-ddim na allai hyd yn oed ddal annwyd, meddan nhw. Dw i, ar y llaw arall, methu hyd yn oed dal slyg. Am fywyd anurddasol.