Byrddau; sgriniau; papur a beiros ac aer sych, trwchus y gwres canolog yn llenwi neuaddau ac ystafelloedd sy’n llawn pobol bwysig. Bydd ’na wydrau o ddŵr yn cael eu sipian yn araf wrth i dafodau drafod nes eu bod nhw’n sych; teis yn cael eu llacio wrth i’r dyddiau byrion fynd yn fyrrach; ffenestri mawr fel llygaid y byd mawr tu allan yn edrych i mewn ar ffawd y dyfodol yn cael ei ddatgelu.