Daeth 200 o bobol i draeth y Parrog ym mhentref Trefdraeth yn Sir Benfro ddydd Sadwrn, i alw ar Lywodraeth Cymru “i drin yr argyfwng tai fel argyfwng go-iawn”.

“Mae tai tair ystafell wely yn gwerthu am bron i £400,000 mewn ardaloedd fel Trefdraeth,” meddai Hedd Ladd-Lewis, un o’r trefnwyr.

“Gan mai £26,466 yw cyflog cyfartalog y sir mae’n anodd iawn i bobl leol, a phobol ifanc yn enwedig, i brynu tŷ er mwyn byw yn lleol.”