Rydw i’n siŵr eich bod ch’n gyfarwydd iawn gyda’r ffenestr drosglwyddo yn y byd pêl-droed. Rydym ni wedi hen arfer gweld drama ar ddiwrnod ola’r ffenestr pan mae clybiau mawr yn ceisio arwyddo chwaraewr newydd. I rai o’r cefnogwyr y dyddiau yma, mae’n debyg mai diwrnod ola’r ffenestr drosglwyddo yw diwrnod pwysica’r flwyddyn.