Mae yna ambell bwnc sy’n dod yn ôl dro ar ôl tro heb newid fawr ddim … ymchwiliadau i achosion dychrynllyd o gam-drin plant, annhegwch tuag at bobol ddu a lleiafrifoedd eraill … cam-drin a thrais yn erbyn menywod.

Ym mhob achos, mae’r digwyddiadau’n dilyn patrymau cyfarwydd a’r ymateb mewn rhigolau hefyd – addewidion i ddysgu gwersi, ambell ymchwiliad ac ychydig o welliant. Ond, yn sylfaenol, mae’r problemau’n parhau oherwydd ystyriaethau dyfnach.