Roedd gweithio ar ffilm newydd Cwmni Theatr Ieuenctid eleni yn beth mawr i’r awdur, Hanna Jarman…

“Ro’n i eisiau chwarae â’r ffaith bod yna sawl math o gariad. Mae cariad rhamantus yn wahanol iawn i’r cariad rydych chi’n ei gael tuag at wlad, neu gariad at ffrind.”

Dyna’r syniad sylfaenol y tu ôl i ffilm newydd Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru eleni, yn ôl yr awdur Hanna Jarman.