Myfyrwraig o Gaernarfon yn bencampwraig gwaywffon
Enillodd Abbi Parkinson, y ferch o Gaernarfon sy’n astudio Addysg Awyr Agored yng Ngholeg Menai, y wobr gyntaf yn ddiweddar mewn cystadleuaeth taflu gwaywffon i rai dan 20 oed.
Mae Abbi wedi bod yn hyfforddi ym maes athletau ers oedd hi’n naw oed, ond dim ond llynedd aeth hi ati i hyfforddi’n llawn i daflu’r gwaywffon.
Mwy am hanes y gystadleuaeth ar Caernarfon360.
Myfyrwraig o Gaernarfon yn ennill Pencampwriaeth Taflu Gwaywffon Cymru i ferched dan 20
Ein tref fach fawr ni
“S’dim ishe mynd ymhell i gael y gorau.”
Ar ôl sefydlu busnes glampio yn ardal Llanbed yn ddiweddar, roedd angen i Gwennan Jenkins fynd i hôl rhywbeth o hyd cyn gallu agor. Dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, mae wedi synnu cymaint o bethau sydd ar gael wrth siopa’n lleol.
Ar Clonc360 mae’n rhannu rhestr hir o bethau mae hi wedi’u prynu o amrywiol siopau yn Llanbed. Ond mae hyn yn fwy na chyfleustod. “Am bob £1 ni’n ei wario gyda busnes bach, mae 63c yn aros yn yr economi leol.”
“Be sy’n neud y cefnogi yn sbeshal yn Llanbed yw’r bobl, gwasanaeth unigryw o arbennig. Fel arfer mae’n un Cymraeg, mae’n bersonol, ma’ amser gyda phawb i’ch helpu (ma nhw’n gwbod eu stwff!) ac mae ganddyn nhw ffydd ac ymddiriedaeth yn eu cwsmeriaid – sydd mor brin yn y byd.”
Mae Gwennan yn bennu gyda her i bawb – os oes angen rhywbeth arnoch, gofynnwch y cwestiwn yma’n gyntaf – yw e ar gael yn lleol?
Taith Tractorau Ysgol Penrhyn-coch
Roedd cyfuniad o dywydd braf, cwmni da a rhyw ddeg ar hugain o dractorau yn ddigon i greu diwrnod da yn Nhaith Dractorau Ysgol Penrhyn-coch.
Yn ogystal â chreu cyfle i bobol ddod ynghyd i gymdeithasu, llwyddwyd i godi swm arbennig o dros £1,600 – da iawn i bawb a gymerodd ran!
“Wedi cyfnod hir o beidio â chynnal digwyddiadau cymunedol, roedd yn hyfryd iawn gallu cynnal digwyddiad cymunedol yn ddiogel yn yr awyr agored,” meddai un o’r trefnwyr.
Mwy ar BroAber360.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Tîm Pêl-droed Menywod Llanbed, gan Tracy Nicola Jones ar Clonc360
- Myfyrwraig o Gaernarfon yn ennill yn Taflu Gwaywffon dros Gymru, gan Hannah Hughes ar Caernarfon360
- Taith Tractorau Penrhyn-coch, gan Bethan Evans ar BroAber360