Gan rywun yn ymateb i flog y daeth y sylw mwya’ bachog ar argyfwng diweddara’r Deyrnas Unedig – yr argyfwng petrol a phenderfyniad Llywodraeth Boris Johnson i holi am help Ewropeaidd …
“Alla i ddim gwrthod y demtasiwn. Brexit 2016: Dod draw yma i ddwyn ein swyddi. 2021: DDIM yn dod yma i ddwyn ein swyddi.” (Nigel Hunter yn ymateb i peterblack.blogspot.com)
Chwarae teg, roedd ffrancsais.blogspot.com yn trio gweld yr ochr olau …
“Un fantais sydd gan siopau lleol yw bod faniau o dan y trothwy 3.5 tunnell yn ddigon mawr i’w perchnogion ac felly does dim angen trwydded HGV i gasglu nwyddau. Efallai bod sgôp am ragor o storio gerllaw gorsafoedd trên… gan adael y cam ola’ i’r perchennog siop lleol yn ei fan ysgafn.”
A John Dixon yn gweld yr ochr eironig – a heuo a fed a ballu …
“…pan fo llywodraeth sy’n ymateb i bopeth trwy ddweud celwydd yn dweud nad oes prinder tanwydd, yr adwaith mwya’ rhesymegol – yr unig adwaith rhesymegol o bosib – yw i weithredu fel pe bai prinder ac mae’r creisus tanwydd sy’n dilyn felly yn ganlyniad i anonestrwydd cyson y llywodraeth tros gyfnod maith… Ond daw hynna â ni at y benbleth go-iawn: fod cymaint o’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd [Boris Johnson]… yn parhau i’w gredu… Chwarae teg, mae perswadio cynifer o’r boblogaeth i weithredu yn erbyn eu buddiannau eu hunain… yn dipyn o gamp.” (borthlas.blogspot.com)
Does gan Royston Jones ddim ffydd yn Llywodraeth Cymru chwaith, wrth iddi roi arian i fentrau ‘gwyrdd’ o’r tu allan i Gymru …
“Mae gyda ni broblem yng Nghymru oherwydd, yn ei awydd truenus i gael ei weld yn Wyrdd… mae pwychingalw [Mark Drakeford] a’i griw yn gwastraffu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ar eco-rogwyr, memsahibs a breyddwydwyr. Bydd y rhain, yn ddi-feth, yn galw eu cynlluniau twyllodrus neu ddwl yn ‘fentrau cymunedol’ … gyda’r gymuned leol bron bob tro yn gwybod dim amdanyn nhw. Fel rheol, pobol o’r tu fas yn siarad gyda’i gilydd. Ond mae gan y bobol hyn o’r tu fas gysylltiadau da – i arian cyhoeddus Cymru. Sy’n dangos pa mor bell y mae ‘Llywodraeth Cymru’ wedi crwydro oddi wrth y bobol y mae’n hawlio eu cynrychioli.” (jacothenorth,net/blog)
Ac, eto, yn ôl Theo Davies-Lewis, mi allai Llafur Cymru fod yn fodel i Lafur gwledydd Prydain …
“… mewn gwlad lle mae hunaniaethau amrywiol, wedi ei rhannu gan ddaearyddiaeth, iaith, neu gefndiroedd sosio-economaidd, dyw hi ddim yn amhosib dod yn blaid naturiol llywodraeth cenedlaethol. I Lafur Cymru, mae wedi bod yn broses, yn hytrach na digwyddiad, ers bron ganrif. O dan arweiniad gwahanol ddynion, maen nhw wedi bod yn bont i wahanol grwpiau deimlo eu bod yn cyflawni eu dyheadau a fod ganddyn nhw fudiad sy’n rhannu eu cred.” (thenational.wales)