Pawb yn pwmpio petrol

Anghofiwch am y Senedd, mae prif fwrlwm y genedl wedi bod yn y garejys ar hyd a lled y wlad.

Bu pwmpio petrol fel na welwyd, bois bach, wrth i bobol banicio bod y diesel a’r di-blwm ar fin darfod.

Mae digon o danwydd i’w gael, dalltwch!

Y broblem ydy bod dim digon o yrwyr loris mawr i gludo’r petrol i’r pwmp.