Bu cryn ymateb yr wythnos hon pan gyhoeddodd Marylebone Cricket Club (M.C.C.), sy’n gyfrifol am lunio deddfau criced ers y ddeunawfed ganrif, mai ‘batter’ fyddai’r term safonol ar gyfer y sawl sy’n batio, gan ddisodli ‘batsman’. Mae hyn am nad yw’n cael ei ystyried yn derm digon niwtral wrth i gêm y merched ddatblygu.