Mae’r haf drosodd, ac ma’i ’di bod yn w’thnos arall sy’n dangos ein bod ni’n byw mewn gwladwriaeth sydd, i fod yn blwmp ac yn blaen, yn dipyn o siop siafins.

Dyma ni ar drothwy’r gaeaf gyda Llywodraeth Prydain yn benderfynol o gipio £20 yr wythnos oddi ar bobl sydd ei angen wrth inni wynebu argyfwng ynni y gellid bod wedi ei osgoi ac sydd am wneud y tlotaf yn dlotach fyth.