Chwaraeodd fy mab dros Gymru ar y penwythnos. Wel, i fod yn hollol gywir, chwaraeodd dros dîm Cefnogwyr Cymru Dros Annibyniaeth. Ond roedd ei weld o’n canu’r anthem gyda’r ddraig ar ei grys coch yn rhywbeth mae pob Tad yn breuddwydio amdano fo.

Roedd y grŵp wedi trefnu gêm yn erbyn Matebeleland. Mae Matebeleland yn ardal o Zimbabwe, tua maint Lloegr, sydd yn brwydro am annibyniaeth. Mae eu tîm cenedlaethol yn chwarae yng nghystadleutha Conifa, gyda gwledydd eraill sydd eisiau cydnabyddiaeth.