Wel, mae gan S4C fos newydd.
Nid sôn ydw i am Brif Weithredwr y Sianel, na Chadeirydd ei Bwrdd.
Ond am y person sydd â’r gwir bŵer. Y person all newid holl drefniadau cyllido’r Sianel ar fympwy. Y person all dorri ei chyllideb fel y mynno. Y person sy’n apwyntio aelodau ei Hawdurdod.
Y person allai dynnu’r plwg ar ei dyfodol pe bai’n dymuno.