Peth hawdd ydi galw ar lywodraeth i beidio â thorri hyn a’r llall neu i roi rhagor o arian at rywbeth ac, weithiau, mae’n digwydd fel petai’n rhyw fath o ddefod, rhywbeth sy’n gorfod digwydd.

Y tro yma, mae digon o fudiadau a gwleidyddion o bob cefndir wedi uno i fynegi pryder, nes bod rhaid trin y galwadau o ddifri. Mi fyddai torri’r Credyd Cynhwysol ddiwedd y mis yn achosi caledi go-iawn.