Dw i’n deall y demtasiwn inni oll dwyllo ein hunain fod perygl covid drosodd. Ychydig ohonom nad ydym ar y rheng flaen yn y frwydr hon sy’n fodlon wynebu’r realiti caled fod pethau eto’n gwaethygu, y gallai cyfnod clo arall fod ar y gorwel, a bod y niferoedd sy’n marw o’r feirws yn argoelus godi. Mae tua deg o bobl yng Nghymru yn marw ohono bob dydd, er gwaetha’r rhaglen frechu, a ganmolwyd i’r cymylau fel un lwyddiannus, er sydd erbyn hyn wedi disgyn y tu ôl i gynnydd un yr Undeb Ewropeaidd.