Bu farw Sarah Harding, un o aelodau’r grŵp pop Girls Aloud, wythnos diwethaf.

Roedd hi’n 39 oed, ac o ganser y fron y buodd hi farw.

Ar ddiwrnod cyhoeddi ei marwolaeth, neilltuodd BBC One funudau cyntaf y prif fwletin newyddion i’w marwolaeth, ac i drafod canser y fron ymhlith menywod ifanc a phwysigrwydd mynd am gyngor meddygol gynted ag y bo symptomau posibl yn ymddangos.

Ac roedd pobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn cwyno.