Mae’n deimlad od, dychanu’r iaith ar lefel broffesiynol.
Ond dyna fydda i’n ei wneud, ar y BBC o bob man, yr wythnos hon. Rhaglen banel yw Uffern Iaith y Nefoedd sy’n anelu at ein parchus ofn tuag at y Gymraeg. Ei bwriad? Procio rhywfaint ar y ‘plismyn iaith chwyrn a chreulon’ yn ein plith, sy’n ‘condemnio pob camdreiglad’.
Falle ’mod i’n defnyddio’r gair ‘proffesiynol’ mewn ffordd braidd yn llac fanna, cofiwch. Nid digrifwraig mohona’i, nac arbenigwraig chwaith; jyst merch i eiriadurwraig, wyres i fardd, storïwyr a sgwennwyr ‘Steddfod Plwy, sy’n darlledu o dro i dro. Mae hynny’n fy ngwneud yn ddigon cymwys, debyg, i ddilorni’r iaith ar donfeddi ein Darlledydd Cenedlaethol.
Mae’n rhaglen amserol iawn – fe fyddwn ni i gyd yn gyfarwydd erbyn hyn gyda’r berthynas bigog sydd gan rai siaradwyr Cymraeg at fratiaith a ‘safonau’. A gyda bod hawliau modern y Gymraeg yn bethau mor ddiweddar – a chymaint wedi ei aberthu wrth brotestio amdanynt – gellir maddau i’r rhai sy’n gweld y Gymraeg fel Busnes Difrifol, neu sydd eisiau trin ein hiaith fel glain: i’w hamddiffyn a’i gosod ar bedestal i’w hedmygu.
Ochr arall y geiniog, fodd bynnag, yw’r nifer di-ri o bobl dw i wedi adnabod sydd, ar ôl blynyddoedd o sgwrsio yn Saesneg, wedi datgelu eu bod yn medru’r Gymraeg wedi’r cyfan – ond wedi colli pob hyder, ar ôl cael eu cywilyddio gan ddieithryn crintachlyd, rhiant i ffrind, neu athro blin. Rhai sy’n deall yr iaith yn iawn, ond ddim yn teimlo fod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw – gan gredu bod rhaid ennill yr hawl i chwarae ac arbrofi gyda’r iaith, neu hyd’noed i’w dychanu.
Mae lle i gyfaddawdu ar y ddwy ochr dybiwn i. Amser, efallai, i roi atgofion stafell ddosbarth o’r neilltu, a cheisio goresgyn y gwrid o gael eich cywiro; ac i rai ohonom fod yn fwy caredig, a rhoi mwy o lwfans wrth i rai faglu trwy’n hiaith yn ei holl hyfrytwch cymhleth. Amser hefyd i dderbyn bod cyweiriau anffurfiol, a newid rhwng cyweiriau, yn nodweddion normal ym mhob iaith. Call, efallai, hawlio ‘safonau’ mewn dogfennau cyfreithiol, swyddogol neu lenyddol – ond dwi ddim eisiau i DJs Radio Cymru swnio fel Beibl William Morgan, chwaith.
Lwc, hap a damwain yw bod pwyslais ar gywirdeb iaith ar fy aelwyd inne wedi blodeuo’n chwilfrydedd, yn ddiddordeb mewn tafodieithoedd a ‘dawn deud’ – a chanfod mai pleser yw cael chwarae gydag iaith: ei chyweiriau, mwyseiriau, idiomau a’i chynghanedd. Mae hyd’noed Wenglish yn bleser. Fel byrgyr McDonalds wedi’i fyta ffwl sbîd mewn car tra bod y chips yn rhy boeth: fyddwn i ddim yn ei wneud o flaen pawb, ond mae nibl bach achlysurol yn beth braf iawn iawn.
Felly, sathru ar yr iaith am sbort wnes i, a joio mas draw wrth wneud, hefyd. Dw i wedi laru ar hiwmor blinedig y di-Gymraeg, sy’n ailadrodd jôcs am gytseiniaid a phoer – pleser, felly, cael y cyfle i ailfeddiannu synnwyr digrifwch am ein hiaith, yn ein hiaith ein hunain. Ac os ydyn ni am gael jôcs gwell am yr iaith na ‘looks like a cat walked on a keyboard’, man a man iddyn nhw fod yn Iaith y Nefoedd hefyd.
Mae Uffern Iaith y Nefoedd ar Radio Cymru fore Sadwrn am 11