Ar ôl disgwyl cyhyd, cafwyd cyfle i wylio perfformiad byw unwaith eto, gydag Ysgol Glanaethwy yn dathlu dychweliad araf yn ôl i’r llwyfan gyda pherfformiad o un o ddramâu Shakespeare, Breuddwyd Nos Ŵyl Ifan.
Yn ôl y Cyfarwyddwr Cerddorol, Cefin Roberts, “hon yw’r ddrama fwyaf ffanatasïol a sgwennodd William Shakespeare erioed”. Perfformiwyd y ddrama – a gyfieithwyd gan y diweddar Gwyn Thomas – yn yr awyr agored ym Mangor, mewn dull promenâd. Am fwy o wybodaeth, ewch i BangorFelin360.
Blas o’r Bröydd
Dewch am dro ar y trên bach
Ydych chi erioed wedi bod ar y trên stêm, sy’n ymlwybro’n araf o Aberystwyth trwy Gwm Rheidol? Mae fideo o uchafbwyntiau’r daith a’i golygfeydd wedi’i rhannu ar BroAber360. Ewch i’r wefan i ymuno ag Eiry a Greta ar hyd y daith… efallai y bydd yn ddigon i’ch ysbrydoli i fynd ar y trên bach eich hun pan fyddwch yn ymweld â’r ardal nesa’!
Taith Rhodri
Trefnodd Clwb Seiclo Caron daith seiclo arbennig ddydd Sadwrn 14 Awst i gofio am gyn-aelod o’r clwb, Rhodri Davies. Yn ôl y Cadeirydd, Gwion James, roedd Rhodri yn “aelod poblogaidd a ffyddlon o Glwb Caron ers y cychwyn yn 2013, roedd yn gwmni da ar daith feics ac mae’n golled hebddo.”
Cylchdaith 50 milltir oedd yn wynebu’r seiclwyr – rhwng Tregaron, Llanybydder a Thyngraig. Er mwyn creu her i bawb, roedd cyfle i seiclo un, dwy neu dair cylchdaith, gyda’r dair taith yn dechrau ar amseroedd gwahanol er mwyn i bawb allu gorffen tua’r un amser, rhwng 4 a 5 y prynhawn.
Mae modd cefnogi trwy gyfrannu at yr elusen – Tir Dewi – ar Caron360.
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Rasus Trotian Llanddewi yn digwydd, gan Enfys Hatcher Davies ar Caron360
- Diwedd ar dair cenhedlaeth gyda Brigâd Dân Llanbed, gan Alis Butten ar Clonc360
- Taith Rhodri, gan Manon Wyn James ar Caron360