Os ydi’r dadlau am Affganistan yn ymwneud yn benna’ ag agweddau llywodraethau Prydain a’r Unol Daleithiau, mae Leena Farhat yn mynnu bod Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu gweithredu …
“Dyw hi ddim yn ddigon dweud ein bod yn genedl seintwar pan na allwn ni weithredu ar hynny mewn cyfnod o angen a phan fo datganoli’n rhoi’r grym i ni wneud. Fy ateb syml i’r beirniaid sy’n dweud nad oes gan Gymru’r grym i weithredu yw nad oes neb yn Affganistan yn poeni am Atodiad 7A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ond maen nhw yn poeni am ddod o hyd i gartre’ newydd, a gallwn ni ddarparu hynny. Mater Prydeinig yw hwn ond mae gan Gymru’r cyfle i arloesi o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n grymoedd i helpu pobol Affganistan.” (thenational.wales)
Ynghanol y dadlau mawr am ganlyniadau Lefel ‘A’ a’r effaith ar gyrsiau meddygol, dywed John Dixon mai penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Prydain sy’n gyfrifol – penderfyniad i gyfyngu ar nifer y llefydd hyfforddi …
“Yr hyn y mae’r ‘chwyddiant graddau’ honedig yma’n ei danlinellu yw nad achos y prinder yw diffyg pobol sydd eisiau mynd yn ddoctoriaid neu ddeintyddion, na chwaith amheuaeth am eu haddasrwydd. Mae’n ganlyniad i benderfyniadau gan gyfres o lywodraethau i gyfyngu ar nifer y lleoedd, i raddau helaeth am resymau ariannol. Maen nhw wedi gwneud penderfyniad bwriadol i hyfforddi llai nag sydd ei angen arnon ni ac, yn lle hynny, recriwtio pobol sydd wedi eu hyfforddi y tu fas i’r Deyrnas Unedig. Yn y broses, yn ogystal â gwrthod llawer o’r rhai sydd eisiau dilyn gyrfa yn feddygon neu ddeintyddion ac sydd â’r gallu i wneud hynny, maen nhw hefyd yn gwadu i wledydd eraill y budd o’u buddsoddiad eu hunain mewn hyfforddiant. Byddai unrhyw lywodraeth sydd o ddifri’ ynghylch gofal iechyd iawn i’w dinasyddion yn dechrau trwy edrych ar faint o bobol sydd angen eu hyfforddi i gynnig y gofal hwnnw ac wedyn yn darpapru digon o lefydd i gwrdd â’r angen.” (borthlas.blogspot.com)
Diffyg gweithredu sy’n poeni llawer o bobol ym maes tai hefyd a Sefydliad Bevan yn tynnu sylw at broblem ychwanegol – fod tai rhent yn cael eu troi’n dai gwyliau, oherwydd y cynnydd mewn galw am wyliau carreg y drws …
“…mae llawer o landlordiaid yn manteisio ar y cynnydd mewn galw am wyliau yng ngwledydd Prydain i droi eu tai yn lety Airbnb a threfniadau llogi byr dymor tebyg. Er ei bod yn rhy gynnar i weld effaith y cyfnod digynsail yma o alw, mae yna rai arwyddion y bydd yr effaith yn fawr…cyn y pandemig, edrychodd adroddiad gan Capital Economics ar landlordiaid tymor byr a thymor hir drwy’r Deyrnas Unedig. Dangosodd eu data nhw fod 10% o landlordiaid yn ystyried troi eu tai rhent tymor hir yn llety gwyliau tymor byr. Gallai hynny arwain at dynnu tua 8.7% o dai o’r farchnad, tua 18,000 o gartrefi yng Nghymru.” (Hugh Kocan ar bevanfoundation.org)
Mi fuodd yna ryw fath o weithredu o fewn YesCymru wrth i’r pwyllgor rheoli ymddiswyddo. Ond mae’r cwestiynau sylfaenol yn parhau …
“Gall pobol yn YesCymru ymgyrchu tros Gyrmu ‘asgell chwith’, gall pobol yn YesCymru ymgyrchu tros Gymru ‘asgell dde’. Yr unig farn na ddylai gael ei chroesawu yn YesCymru yw’r farn y dylai neb – yn enwedig grŵp lleiafrifol – deimlo’n anniogel neu’n ddi-groeso yn y mudiad… gyda 20,000 o gefnogwyr dylai fod gan YesCymru o leia’ 10 neu fwy o aelodau staff proffesiynol llawn amser – ac ar gyflogau cystadleuol hefyd – gyda digon ar ôl i dalu am bosteri, pamffledi a hysbysebion.” (Ifan Morgan Jones ar nation.cymru)