Y bardd o Dregaron, Gwenallt Llwyd Ifan, a enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ag awdl a oedd wedi ei hysbrydoli wrth iddo sefyll ar gopa mynydd ym Mhen Llŷn.
Ar ddechrau’r awdl mae rhedwr yn cyrraedd y copa ac yn gweld y wawr oddi tano. Erbyn diwedd y gerdd mae’n darganfod gwawr arall, yr un sy’n dynodi’r deffro yng nghenedlgarwch y Cymry.