Dyfan Lewis, bardd 28 oed o Graigcefnparc ger Abertawe, a enillodd Coron Eisteddfod AmGen 2021, gyda dilyniant o gerddi am y brifddinas a sgrifennodd o dan gyfyngiadau cymdeithasol covid.

“Ro’n i eisie sgrifennu cerddi am Gaerdydd,” meddai. “Dw i wedi bod yn byw yma nawr ers bron i ddegawd … ers symud yma i fynd i coleg. Ro’n i eisie trafod fy mherthynas i gyda’r lle, a thrafod lle dw i’n meddwl y mae’r ddinas ar hyn o bryd o ran ei pholisïau ar ddatblygu ac yn y blaen.