O’n i’n rhy ifanc i fotio yn refferendwm ’97, ond dw i’n cofio’r cyffro – a chyffro llwyr o’dd e i fi. Ro’dd fy rhieni, falle, yn fwy nerfus – yn cofio ’79. Ond i fi, ro’dd e fel dechre ffres. Posibilrwydd, potensial.