Mae’r iaith Gymraeg yn bwnc anodd i wleidyddion. Mae’n rhaid iddyn nhw ddweud rhywbeth amdani, ond ddim gormod, rhag dychryn y colomennod.

Mewn etholiad diafael fel hwn (yn holl ystyron y gair), mae hi hyd yn oed yn fwy anodd i godi trafodaeth am bwnc o’r fath, lle mae angen dyfnder dealltwriaeth a pholisïau cymhleth.

Felly, be mae’r maniffestos yn ei ddweud?