Rydych yn ymuno â mi ar wylie’r wythnos hon. Wel, dw i’n gweud gwylie, fydde fe ddim ’di cyfri’ fel rhyw lawer o wylie yn y DCC – y Dyddiau Cyn Covid.

Fel llawer, ma’n siŵr, o’n i’n rhyw drïo cadw’r gwyliau ar gyfer cyfnod mwy… agored – ond gyda’r ailagor yn edrych yn ddigon lletchwith, ro’dd hi’n amser mynd amdani a cha’l y gwylie ’na ma pawb yn ca’l o bryd i’w gilydd – gwylie ‘neud pethe sy’ heb ga’l eu gwneud’.