Mae Adroddiad Sewell ar hiliaeth yng ngwledydd Prydain yn llwyddo i gyflawni camp ryfeddol – trwy fod, mae’n gwrthbrofi ei brif ddadl ei hun.

Does dim enghraifft gliriach o hiliaeth systemig na’r ffordd y mae’r adroddiad yn ceisio golchi dwylo’r system a honni nad ydi hiliaeth bellach yn rhan o’r drefn Brydeinig.