Mae Dylan Ebenezer yn dweud y gall Cymru fod yn hapus â’r triphwynt yn eu dwy gêm ragbrofol ar gychwyn yr ymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2022.

Ac mae’r sylwebydd pêl-droed yn darogan y bydd y Cymry yn profi “rhywbeth sbesial” yn yr Ewros fis Mehefin, gyda thipyn bach o lwc…

Daeth y ffenest ryngwladol ddiweddaraf i ben gyda buddugoliaeth 1-0 i Gymru dros y Weriniaeth Tsiec a phwyntiau cynta’r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.