Yn ’i hanfod, ddyle gwrthdaro ddim bod yn ddiflas – ond bois bach ma fe’n gallu bod nagyw e?

Cymrwch y rivalry bondigrybwyll rhwng Caerdydd ac Abertawe yn y pêl-droed – hollbwysig i rai sy’n ymhél ag e, hollol hollol ddibwynt a boring i bawb arall.

Yn geme Cymru beth amser yn ôl – ma fe bron ’di diflannu erbyn hyn – bydde gyda chi chants gan ffans Abertawe a chants gan ffans Caerdydd… a channoedd rhyngthyn nhw yn rolio’u llygaid ac yn ochneidio.