Yn sgîl llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain, fe gynhaliwyd gwylnosau ledled gwledydd Prydain er cof amdani, ac er mwyn sbarduno trafodaeth am ddiogelwch merched.

Cafwyd gwylnos ym Mae Caerdydd nos Sadwrn diwethaf wrth i ymchwil gan UNWomenUK ddangos bod 97% o ferched 18-24 oed wedi diodde’ aflonyddu rhywiol.