Rhag ofn na fydd cyfle eto, efallai, mae John Dixon wedi creu cymhariaeth rhwng dau arweinydd ar ddwy ochr yr Iwerydd…
“Nid rheolaeth wael o’r pandemig yw’r unig debygrwydd. Mae sylw’r ddau ddyn wedi’i dynnu gan gynnyrch eu dychymyg eu hunain – yn yr Unol Daleithiau, twyll etholiadol dychmygol, ac yn y Deyrnas Unedig, bendithion dychmygol Brexit. Mae’r ddau wedi dangos gallu rhyfeddol i fethu â chydymdeimlo ag eraill, yn enwedig y rhai sydd wedi colli llawer. Mae’n ymddangos bod y ddau’n credu mai nhw yw’r dioddefwyr go-iawn – Trump oherwydd cynllwyn anferth i ddwyn etholiad, a Johnson trwy orfod gwneud pethau y mae’n eu casáu.” (borthlas.blogspot.com)
Felly, ymlaen â ni efo gweddill ein bywydau… a dyfodol Cymru. Un o’r digwyddiadau cynta’ fydd etholiadau’r Cynulliad…
“Ynghyd â ffigurau ffafriol y Prif Weinidog yn y polau piniwn, mater gobeithiol i’r Blaid Lafur yw fod gwleidyddiaeth y gwrthbleidiau bron â bod yn amherthnasol yng Nghymru. Dewis anysbrydoledig yw Plaid Cymru o hyd i fwyafrif y cyhoedd, gan hongian yn despret wrth gynffon YesCymru. Dyw’r Torïaid Cymreig bellach fawr mwy na ffynnon syniadau ideolegol mawreddog.” (Theo Davies-Lewis ar nation.cymru)
Ond pan ddaw etholiadau San Steffan, mi fydd pethau’n anos i Lafur wrth i ffiniau gael eu newid i dorri ar seddau Cymru a rhai Llafur yn Lloegr hefyd. Tegwch o ran niferoedd ydi’r nod, meddai’r Llywodraeth, ond i Ifan Morgan Jones, mae’n annhegwch ar ben annhegwch…
“…pam fod y Deyrnas Unedig wedi gweld y fath newid mewn poblogaethau ers llunio’r ffiniau cynharach? Pam, yn sydyn, fod yna nifer cynyddol o bleidleiswyr yn Llundain a’r de-ddwyrain a niferoedd sy’n lleihau’n gymharol yng Nghymru, yr Alban a gogledd Lloegr. Yn bendant, mae oherwydd bod grym economaidd, gwleidyddol a diwylliannol wedi’u canoli ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr… i bob pwrpas, mae Cymru’n cael ei chosbi am golli pobol alluog – colled sy’n cael ei hachosi gan y ffaith fod ardal dlota’ gogledd-orllewin Ewrop, Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, ochr yn ochr â’r gyfoethoca’, Llundain.” (nation.cymru)
Mae’r drefn o fewn Cymru yn y fantol hefyd, meddai Dafydd Glyn Jones…
“Cymdeithas yr Iaith heddiw’n hollol iawn wrth dynnu sylw at y dirfawr berygl sydd yng nghynllun y llywodraeth i fynd â phwerau oddi ar yr awdurdodau lleol a’u trosglwyddo i bedwar awdurdod rhanbarthol a fydd yn gwangoau anatebol i bob diben. Datganiad da iawn gan Ffred Ffransis, a da iawn golwg360 am ei gyhoeddi… Ar ôl hyn ddylai Plaid Cymru ddatgan na all hi byth, mewn unrhyw amgylchiad, glymbleidio â Llafur yn y Senedd.“ (glynadda.wordpress.com)
Ac ateb Sefydliad Bevan yw sylw newydd ar y trefi, yn hytrach nag un rhanbarth – ein de-ddwyrain ni…
“Gall eu datblygu helpu i newid pwyslais datblygu yng Nghymru a newid dyfodol eu rhanbarthau… maen nhw’n hanfodol i economi Cymru… mae ffordd trefi o edrych arnyn nhw eu hunain a ffordd pobl eraill o’u gweld nhw, eu stori, yn bwysig… O benderfynu setlo yn rhywle, dechrau teulu, dechrau busnes neu gael yr hyder i fuddsoddi mewn lle – mae stori a hunaniaeth y lle hwnnw’n cyfri’n fawr wrth benderfynu ar ei ddyfodol.” (Helen Cunningham ar bevanfoundation.org)