“Be fi’n stryglo ’da fwya’,” medde ffrind wrtho fi wrth inni adel y dafarn yn anfodlon am ddeg o’r gloch nos Wener, “yw’r diffyg unrhywbeth i edrych mla’n at – ti ffili hyd yn oed bwco rhwbeth achos ti’n gwbo’ bo gwd chance eith e’n ffliwt”.

Wel yn union – ma’r humdrum o neud dim lot yn weddol hawdd i ymdopi ag e mewn ffordd – ma’ jyst raid. Ond ma’r diffyg unrhywbeth i edrych mlan ato fe – gwyliau, unrhywbeth – yn llethol.