Un o sgîl-effeithiau’r cyfnod rhyfedd yma ry’n ni’n byw ynddo fe, yw bo’ ni’n cymryd diddordeb ym mhopeth ond y feirws.

Fy mhechod arbennig i yw’r tywydd.

Rwy’n treulio oriau ar sawl gwefan yn tracio stormydd ar draws y môr, a gallu dweud ag awdurdod wrth y wraig: ‘Paid â rhoi dillad ar y lein ’sbo ten past! Fydd hi’n sych am awr ar ôl hynny’ – fath o beth.