Ar y diwrnod gwaethaf un, postiodd Deian lun ohono’i hun ar Facebook. Roedd y llun yn llawn llawenydd – fo ar draeth yn droednoeth, a’r machlud y tu ôl iddo’n gwaedu adlewyrchiad i fôr oedd fel llyn. Cofiodd Deian y noson, ychydig wythnosau yn ôl, y tynnwyd y llun. Menna’n galw, ‘Rhosa fanna! Ti’n edrych yn berffaith!’ cyn ymestyn am ei ffôn a’i ddal o yna, am byth, mewn hirsgwar o liwiau diwedd dydd, diwedd haf. Roedd ei wên yn y llun yn llydan, yn cyrraedd ei lygaid, ond cofiai Deian